PWYLLGOR:

 

PWYLLGOR CYFRIFOL – CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

 

DYDDIAD:

                               

 

5ed o FEHEFIN 2014

 

TEITL:          

 

YMATEB ADRAN RHEOLEIDDIO , CYNGOR GWYNEDD I’R YMGYNGHORIAD AR Y MESUR DRAFFT  - BIL SAFLEOEDD CARAFANAU GWYLIAU (CYMRU) 

 

PWRPAS:    

 

Cyflwyno tystiolaeth

 

 

AWDUR:

 

PENNAETH  ADRAN RHEOLEIDDIO, CYNGOR GWYNEDD

 

 

1.                    Cyflwyniad

1.1             Mae Cyngor Gwynedd yn croesawu’r cyfle i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor hwn ar y newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth mewn perthynas â thrwyddedu a rheoli  defnydd safleoedd carafanau gwyliau yng Nghymru.  Rydym eisoes fel Cyngor wedi ymateb i’r ddau ymgynghoriad blaenorol ar y Mesur, ac mae’n galonogol fod sylwadau ar agweddau penodol wedi cael eu cyfarch yn y drafft diweddaraf o’r Mesur.

 

1.2             Mae yna oddeutu 380 o safleoedd carafanau gwyliau yng Ngwynedd.             Yn 2006 fe wnaethpwyd ymarferiad desg gan ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) Cyngor Gwynedd i ganfod tua faint o garafanau sefydlog oedd yn ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.  Datgelodd y canlyniadau fod 9442 o unedau yng Ngwynedd gyda 8678 (91.9%) ohonynt o fewn 2km i’r arfordir.

 

1.3             Cafodd Asesiad Effaith Economaidd y Diwydiant Parciau Gwyliau yng Nghymru (Medi 2011) ei gomisiynu ar y cyd gan y British Holiday and Home Parks Association a Croeso Cymru.  Prif ganfyddiadau’r Asesiad Effaith Economaidd oedd bod cyfanswm trosiant a gwariant ymwelwyr o ganlyniad i ddiwydiant parciau gwyliau Cymru yn £727 miliwn bob blwyddyn.  Mae cyfanswm ei effaith economaidd wedi cael ei gyfrif fel cyfraniad Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) o £317 miliwn y flwyddyn, gan gynnal cyfanswm o 10,645 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yng Nghymru.

 

1.4            Mae strategaeth Twristiaeth Arfordirol Cymru (Llywodraeth Cymru, 2008) yn datgan mai carafanio a gwersylla, yn enwedig carafanau sefydlog, oedd y llety a ffafriwyd gan dwristiaid mewn lleoliadau arfordirol, gan gyfrif am 44% o’r holl dripiau yn 2006.

2.                    Tymor meddiannu safleoedd carafanau gwyliau

 

2.1           Mae polisi lleol presennol yn hyrwyddo defnydd o safleoedd carafanau gwyliau sefydlog am gyfnod o hyd at 10 mis a hanner (ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd).  Wrth i safonau’r unedau gwyliau a chyfleusterau ar safleoedd wella, ac wrth i’r galw yn y diwydiant gwyliau newid, mae yna bwysau i ymestyn y cyfnod meddiannaeth gwyliau.  O bersbectif polisi cynllunio lleol y nod yw rheoli datblygiadau yng nghefn gwlad yn ofalus, osgoi datblygiadau preswyl yma ac acw sy’n groes i strategaeth aneddleoedd, a sicrhau bod y meysydd carafanau yn ychwanegu cyn gymaint â phosib i’r economi leol.  Credir bod hyrwyddo trosiant rheolaidd yn nefnydd y carafanau’n hyrwyddo’r amcan olaf.  Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn hyrwyddo cynigion i ymestyn cyfnod meddiannaeth unedau gwyliau yn ddarostyngedig i rai amodau.  Mae’r rhain yn cynnwys:-

 

·         Gellir dangos bod y llety yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac nid fel prif neu unig gartref y deilydd,

·         Ni fydd ymestyn y cyfnod meddiannaeth yn cael effaith andwyol ar fwynderau lleol ac/neu’r amgylchedd lleol.

·         Ystyrir bod y llety a’r safle yn addas i’w meddiannu yn ystod y tymor tawel (yn enwedig misoedd y gaeaf).

 

2.2           Yn gyffredinol, y pryder gan rhai Aelodau gyda cheisiadau cynllunio ar gyfer ymestyn y tymor gwyliau i 12 mis, yw sut fydd hyn yn cael ei fonitro a’i orfodi lle’n briodol. Yn gysylltiedig â’r pryder yma yw'r posibilrwydd y bydd carafanau’n cael eu defnyddio ar gyfer llety byw parhaol a’r sgil effeithiau cymunedol ac ieithyddol gall ddeillio hynny.

 

2.3             Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithredu fel Awdurdod Cynllunio ar gyfer rhannau helaeth o Wynedd.  Nid oes gan yr Awdurdod bolisi penodol yn y Cynllun Datblygu Lleol mewn perthynas ag ymestyn tymhorau ar safleoedd static, ond nid yw'r Parc yn caniatáu safle statig i ymestyn y tymor o 8 neu 10 mis i 12mis.  Fe ganiateir ymestyn y tymor ar rhai safleoedd o 8 mis i 10½ yn amodol fod cyfyngiad ar ddefnydd fel llety gwyliau hunan arlwyo tymor byr yn unig (dim mwy na 28 diwrnod ar y tro).

 

3.                    Bill meysydd carafanau gwyliau (Cymru)

 

3.1            Yn bresennol, trwyddedir safleoedd carafanau gwyliau o dan ddarpariaethau'r Ddeddf Carafanau a Rheoli Datblygu 1960.  Y farn gyffredinol yw nad yw'r ddeddfwriaeth bellach yn caniatáu rheolaeth ddigon effeithiol o safonau ar safleoedd trwyddedig.  Ar hyn o bryd, erlyniad yw’r unig opsiwn o ran gorfodaeth, mewn perthynas â thor amod/amodau trwydded o dan y Ddeddf.  Byddai cyflwyno opsiynau gorfodaeth eraill, megis  y defnydd o  Rybuddion Gorfodaeth/ Gweithdrefn Adolygu Trwydded sy’n gyffelyb i’r drefn a ganiateir drwy’r Ddeddf Trwyddedu 2003, yn caniatáu gwell rheolaeth er mwyn cadw safon uchel a diogel ar safleoedd carafanau.

3.2            Yn yr ymgynghoriad diwethaf ar y mesur, fe gyfyngwyd sancsiynau gorfodaeth ychwanegol i reoli meddiant o garafanau gwyliau fel unig breswylfa.  Erbyn hyn mae eglurdeb yn y mesur ac fe amlygir y bwriad i ymestyn y sancsiynau gorfodaeth arfaethedig i’r holl ystod o amodau sydd yn ymddangos ar drwyddedau safleoedd carafanau.                 Nodir fod y pwerau gorfodaeth a argymhellir yn rhai grymus; ac yn cyfarch yr angen i allu gorfodi gwelliannau drwy gyfundrefn o Rybuddion Cydymffurfio neu Rybuddion Cosb Penodol ar holl amodau drwydded safle.

3.3            Datganir pryder y bydd ystod a natur y gyfundrefn drwyddedu arfaethedig a’r dyletswyddau gorfodaeth ychwanegol yn gosod cryn faich ar adnoddau; ac nid yw yn eglur os fydd modd ad-ennill costau ychwanegol drwy lefel y ffioedd fydd yn bosib eu gosod.

3.4      Fe gyflwynir dyletswydd newydd i sicrhau fod pob safle yn derbyn archwiliad yn unol ag asesiad risg, o leiaf un waith bob tair blynedd.  Yn ychwanegol i hyn, fe fydd pob trwydded yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd.  Nid yw yn eglur beth yw'r rhesymeg am adolygiad o’r fath o ystyried y bydd rhaglen archwilio gynhwysfawr mewn lle.

3.5            Prif bwrpas sylfaenol gosod amodau ar drwydded safle yw sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd.  Yn dilyn Adolygiad Löfstedt yn 2013 mae rhagdybiaeth yn erbyn cynnal archwiliadau rhagweithiol iechyd a diogelwch ar fusnesau os nad oes tystiolaeth fod archwiliad yn gymesurol a’r risgiau mewn perthynas â rheolaeth iechyd a diogelwch. Fe ddylid ystyried os oes cyfiawnhad dros gyflwyno dyletswydd i gynnal archwiliadau rhagweithiol yn y cyd-destun ehangach hwn.

3.6          Mae’r mesur yn cyflwyno'r hawl i weithredu mewn sefyllfa o argyfwng a pherygl i iechyd ar safle.  Mae hyn yn dyblygu grymoedd gorfodaeth ddigonol sydd eisoes yn bodoli o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch Wrth Waith 1974. 

4.             Rheoli defnydd preswyl ar safleoedd carafanau gwyliau

4.1            Yn gyffredinol, mae’r grym i reoli defnydd safleoedd gwyliau fel safleoedd preswyl yn bodoli eisoes mewn deddfwriaeth Gynllunio; ac fe ddylai deddfwriaeth gynllunio barhau fel y prif arf gorfodaeth mewn perthynas â hyn.  Mater cynllunio defnydd tir yw ceisio rheoli defnydd carafanau ar gyfer gwyliau yn unig.  Yr unig adeg y byddai cyfiawnhad dros orfodi amod preswylio ar drwydded yw petai hyd gyfnod defnyddio carafanau yn effeithio ar agweddau iechyd a diogelwch. 

 

Mae’n hynod bwysig fod deddfwriaeth trwyddedu a deddfwriaeth gynllunio yn plethu ac yn hwyluso’r rheolaeth o feysydd carfannau yn hytrach nac yn dyblygu ac o ganlyniad yn cymhlethu’r sefyllfa o safbwynt y Cyngor / Awdurdod a gweithredwyr safleoedd carafanau.

4.2            Mae’r mesur yn cyfeirio at yr angen i gynnwys amod sydd yn gosod gofynion ar berchnogion safle i gynnal profion i ddarganfod os yw meddianwyr y carafanau ar y safle yn cydymffurfio â’r “Prawf preswylio”.  Mae’r amod hwn yn gosod cryn bwysau ar berchnogion safle; ac yn anodd iawn i Awdurdodau Lleol i’w orfodi.  Fe fydd angen sicrhau fod cefnogaeth ddigonol yn cael ei gynnig i berchnogion a rheolwr safle er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio.     

4.3         Cyflwynir cyfrifoldebau ychwanegol ar berchnogion safleoedd i gynnal ‘prawf preswylio’ ar breswylwyr penodol sydd gyda chytundebau i feddiannu carafán gwyliau am fwy na chwe wythnos.  Fe fydd rhaid i’r perchnogion safle gadw cofnodion a thystiolaeth y profion hyn er mwyn i swyddogion yr Awdurdod lleol gael eu harchwilio.  Croesawir y ffaith fod y cyfrifoldeb dros gasglu tystiolaeth ‘prawf preswylio’ yn disgyn ar berchennog safle; ond yn ymarferol rhagwelir y bydd perchnogion safleoedd yn cael trafferth i gydymffurfio os na fydd cefnogaeth a chanllawiau clir ar gael iddynt.

5.             Casgliadau

5.1             Croesawir y ffaith fod y Mesur yn adolygiad llwyr a chynhwysfawr o’r Ddeddfwriaeth mewn perthynas â rheoli defnydd o safleoedd carafanau gwyliau.  Nid yw’r ddeddfwriaeth gyfredol bellach yn addas ar gyfer y pwrpas; ac mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynnig opsiynau gorfodaeth llawer mwy effeithiol er mwyn mynd i’r afael â diffyg cydymffurfiaeth.

5.2             Mae’n bwysig nad ydyw'r Mesur yn arwain at ddeddfwriaeth sydd yn or-gymhleth ac yn anodd ei orfodi, gan osod baich na ellir ei gyfiawnhau ar adnoddau llywodraeth leol; a  disgwyliadau nad ydynt yn ymarferol ar berchnogion busnesau.  Mae’n rhaid hefyd cyfarch y ffaith fod y Mesur yn dyblygu grymoedd gorfodaeth mewn perthynas â deddfwriaeth Cynllunio ac Iechyd a Diogelwch.  Fe ddylid sicrhau nad yw’r mesur yn ceisio rheolaeth dros faterion cynllunio defnydd tir, ond yn hytrach yn ategu a hwyluso’r rheolaeth sydd yn bodoli drwy’r drefn Gynllunio.